Cafwyd steddfod gofiadwy iawn ar faes Bodfal a does ond diolch yn llaes i bawb gyfrannodd yn hael o’u pocedi a’u hamser er mwyn profi i’r werin fod hen wlad Llŷn yn gallu cynnal gŵyl gyfoes ei naws heb wyro yn ormodol o’r traddodiad eisteddfodol.