Y tro diwetha i fi eich annerch ro’n i’n edrych ar sgrifennu traethawd ymchwil oedd yn dri deg mil o eiriau, heb eu didoli na’u gosod ar dudalen – ac angen eu rhoi yn y drefn iawn. Wel, cydiwch yn eich party poppers: mi’r ydw i’n falch iawn o adrodd, bythefnos yn ddiweddarach, mai dim ond dau-ddeg-naw mil, chwe chant a hanner o eiriau sydd gen i i fynd.