Chafodd hi ’rioed ’run wers nofio. Dim ond ei thad yn dal ei chorff bach ar donnau addfwyn y môr, ac yn dweud wrthi i gicio, rŵan, ‘yn hogan i, cicia dy goesa’ nes ti’n sblasho, a gwthia’r dŵr i ffwrdd efo dy freichia’, ’run fath â broga bach. Doedd dim steil yn perthyn i’w symudiad drwy’r dŵr, ond pan dynnodd Dad ei ddwylo’n araf ofalus oddi ar ei chanol, roedd Eiri’n arnofio, yn symud.