Gyda Joe Rodon yn ymuno ag Ethan Ampadu a Dan James yn nhîm Leeds United yr wythnos yma, roedd yna dri chwaraewr Cymreig yn cynrychioli’r gwynion am y tro gyntaf ers blynyddoedd. Does gen i ddim mynediad i gofnodion Leeds, ond yr unig adeg rydw i’n cofio gymaint o Gymry yn chwarae yn Elland Road ar yr un amser oedd yn hwyr yn y 1970au.