Tra’r oedd pawb wrthi’n canmol llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd penderfynodd Dorothy Tyne [Golwg 10/03/23 – ’Steddfod S4C – gormod o chwerthin gwirion a grwpiau pop’] ddatgan barn deg iawn am ymdrechion tila S4C i gyflwyno cystadlaethau o’r Brifwyl.

Er ei bod yn canmol ambell gyflwynydd teimlai fod Tudur Owen a Trystan Ellis–Morris yn dangos eu hunain ac yn chwerthin yn wirion.