Lle mae’r ffin rhwng cadw agwedd sgeptig iach tuag at y byd a llithro yn llwyr mewn i ffordd o feddwl hollol sinigaidd?

Mae pobl sinigaidd yn tueddu meddwl a disgwyl y gwaethaf, ac yn amau bwriad da pobl eraill. Mae sinigiaeth yn feddylfryd pesimistaidd a’r sinig efo barn anffafriol o’r natur ddynol.

Byddai’r sinig yn dadlau ei fod yn ‘realistig’ am y natur ddynol a bod yr optimistiaid yn naïf ynghylch gwir fwriad pobl a’r ffordd mae’r byd yn gweithio!