Ar ran fy mam (83 oed) a minne, hoffem ddatgan ein siom ac anhapusrwydd gyda darllediad S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ni chawsom weld cystadlaethau Cerdd Dant yn eu cyfanrwydd o gwbl. Roedda ni wedi syrffedu ar glywed cyn gymaint o gorau adrodd a chorau alawon gwerin. Does ganddom ni mo’r iPlayer yma ar ein teledu, ond deallaf mai dim ond y Pafiliwn Mawr oedd ar hwnnw.