Fel y gwyddoch bu trafodaeth yn ddiweddar ar ddefnyddio Saesneg ar Pobl y Cwm [a gafodd ei thanio gan golofn Gwilym Dwyfor, ‘Mwy a mwy o Saesneg ar Pobol y Cwm’, Golwg 25/05/23].  Yn siroedd y Gorllewin a’r Gogledd mae’n drist i ddweud y gwelir yn aml dwy gymdeithas ar wahân, un Gymraeg a’r llall yn Saesneg.