Dyna ni, mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi dod ac wedi mynd. Er, pe bawn i’n gwrando ar Am Dro! efallai y dylwn i ei galw hi’n Eisteddfod Llŷn yn unig. Mae ymwybyddiaeth pobl ar y cyfan o union leoliad y ffin rhwng y ddwy fro yn eithaf llac ar y gorau, ond roedd awgrymu fod Llanystumdwy yn Llŷn, fel y gwnaethpwyd dro ar ôl tro mewn pennod arbennig ddiweddar o’r rhaglen gerdded, yn cymryd y Mici Plwm braidd.
gan
Gwilym Dwyfor