‘Yn nhafarn glyd y pentref bach…’ Dyna fel y canodd Meic Stevens yn ei gân am ei wncwl Walter. Ac yn nhafarn glyd Tŷ Newydd, Sarn Mellteyrn, ar nos Lun gynta’r Eisteddfod – rhyw chwarter awr o’r Maes – roedd y Gymraeg i’w chlywed llond y lle.