Dewch gyda ni am dro o gwmpas arddangosfa agored y Lle Celf eleni yng nghwmni’r athrawes gelf a’r artist, Sian Alun. Mae hi’n hanu o bentref Mynytho, Llŷn a bellach yn byw yn Aberdaron, ac roedd hi’n un o ysgrifenyddion y Pwyllgor Celf yn yr Eisteddfod eleni.

“Roedd yn brofiad anhygoel gweld sut roedden nhw’n creu y Lle Celf yma; sut roedd bob dim yn dod at ei gilydd,” meddai ar ddydd Sul y Brifwyl.