Fel rhywun gafodd ei fagu o fewn tafliad carreg i Glawdd Offa a Lloegr, mae’r holl beth yma o fyw ger y ffin rhywsut wedi treiddio yn ddwfn i’r enaid/seici. Rhywbeth cyfarwydd. Rydan ni’n deall y ffiniau ieithyddol yn ogystal â’r rhai sirol/gwleidyddol. Rydym yn adnabod y cymeriadau sydd rhywsut ddim yn un lle neu’r llall ac yn hapus felly – neu’r cymeriadau eraill sydd yn bendant ar ba dir maen nhw’n troedio.