Rhys Iorwerth gipiodd Goron Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, a hynny mewn cystadleuaeth “uchel tu hwnt ei safon” lle’r oedd y beirniaid yn barod i wobrwyo pedwar bardd teilwng.

Bu i 42 gystadlu eleni, a’r beirniaid Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock ill tri yn unfryd mai ‘Gregor’ oedd yn haeddu’r Goron am ei gasgliad o gerddi ar y testun ‘Rhyddid’. Mae’r cerddi, meddent, “yn wyrthiol o gryno”.