Roedd y daith wedi teimlo fel pererindod. Trodd y ffyrdd mawr yn lonydd bach culion, troellog, a’r perthi’n ddail ac yn nythod i gyd. Er bod y glaw wedi peidio erbyn i Kev deithio i Lŷn, roedd ei hoel yn dal ar y tir, yn byllau yn y caeau ac yn siapiau gwadnau esgidiau yn y mwd toeslyd yn y maes parcio.