Yr wythnos hon cyfnewidiodd Bwrlwm y Bae waliau’r Senedd am fwrlwm cae weddol fwdlyd ym Moduan.

Ymysg y miloedd a heidiodd i’r Foduan roedd ambell wleidydd, gan gynnwys yr Aelod o Senedd Cymru lleol.

“Mae o’n deimlad gwych cael y Steddfod ym Moduan, mae hi’n Steddfod ardderchog,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth Golwg.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, codwyd dros hanner miliwn o bunnoedd gan bobol leol tuag at gostau cynnal y Steddfod.