Mae llyfr Cymraeg newydd yn olrhain stori un o’r camweddau gwaetha’ yn hanes system gyfiawnder gwledydd Prydain a rhan rhai Cymry yn honno… rhai fel y postfeistr Noel Thomas a gafodd garchar ar gam oherwydd problemau cyfrifiadurol a chelwydd y Swyddfa Bost. Ond mae Dafydd Glyn Jones yn gweld un diffyg… does dim enwi na chosbi’r rhai oedd yn gyfrifol…