Mae’n debyg fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn mynd i ymchwilio pam fod pobol ifanc yn symud o ardaloedd cefn gwlad.

Mi alla’ i arbed peth amser iddyn nhw: diffyg cyfleon am y math o swyddi sy’n eu denu, diffyg cyfleoedd adloniant a hamdden, cymunedau sy’n heneiddio a gwywo’n economaidd a phrinder tai o’r math iawn yn y mannau iawn.