Junko Mori, neu (森 順子) yn ei hiaith ei hun, yw un o ddetholwyr y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hi a fu’n gyfrifol, ar y cyd â’r ddau feirniad arall – Elfyn Lewis ac Owein Prendergast – am ddewis y gwaith a welwch chi yn y Lle Celf ar y Maes ym Moduan eleni.

Mae hi’n byw mewn hen ffermdy rhwng Penllech a Thraeth Ychain ger Tudweiliog. Ond sut y daeth hi o Japan i Ben Llŷn?