Fe wisgodd amdano’n ofalus y bore hwnnw. Trowsus nefi blŵ o M&S; Esgidiau gwydn brown, a fyddai’n gwrthsefyll glaw tra’n edrych yn smartiach na welingtons; Crys glas ysgafn, bron yr un glas â’r gôt law y byddai’n siŵr o orfod gwisgo drosto. Smart ond ymarferol. Perffaith ar gyfer diwrnod fel heddiw.