Sut mae pethau wedi newid ers Covid-19 a’r cyfnodau clo? Ychydig wythnosau cyn i effeithiau Covid ddod yn hollol amlwg i ni gyd, roeddwn yn rhoi sgwrs yng Nghinio Gŵyl Ddewi Merched y Wawr Caernarfon ar ddyddiad agos i Fawrth 1 2020. Ar y pryd dw i’n credu ein bod ni gyd yn ymwybodol fod rhywbeth mawr ar fin digwydd ac eto dyma ni gyd yn rhannu byrddau ac yn bwyta.