Er gwaetha’r tywydd gwlyb, roedd pawb yn dal i wenu yn ystod Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos. Mae’r ŵyl werin wedi dod yn un o uchafbwyntiau’r gwyliau cerddorol dros yr haf gan ddenu perfformwyr o Gymru a thu hwnt. Eleni roedd 42 o fandiau yn perfformio ar 11 llwyfan ar hyd a lled y dref gyda’r lein-yp yn cynnwys Dafydd Iwan ac Ar Log, Cowbois Rhos Botwnnog, Fleur de Lys, Meinir Gwilym, La Tropa a Los Blancos. Dyma’r dorf yn mwynhau perfformiad gan Bwncath…

Llun: Sesiwn Fawr Dolgellau