Dw i ddim yn siŵr pryd y dechreuodd y marchnata ar gyfer ffilm Barbie. Mae hi wedi bod yn ddiddiwedd. Misoedd o gyfweliadau cast chwareus, dadorchuddio darnau o’r set, o wisgoedd a chlipiau fideo bychain – a finnau, smac dab ynghanol y gynulleidfa darged ar gyfer y fath fenter, wedi gwylio dwsinau o oriau o hysbysebion ar ei chyfer cyn ei phenwythnos agoriadol.