Heidiodd miloedd o Gymry draw i Barc Biwt yng nghanol y brifddinas i fwynhau Tafwyl, er gwaetha’r glaw.

Ymysg y perfformwyr yn yr ŵyl fawr sydd wedi ei threfnu gan Fenter Iaith Caerdydd ac yn rhad ac am ddim, roedd Dafydd Iwan, Ynys, HMS Morris, Lloyd & Dom + Sage Todz, a’r band Candelas sydd ar y llwyfan yn y llun.