“Why do people always want to meet up?” gofynnodd Victor Meldrew flynyddoedd yn ôl, wrth iddo fo a’i wraig wneud cryn ymdrech i osgoi’r bobl oedden nhw’n eu hadnabod. Fedra i ddim dweud fy mod i’n cytuno â’r sentiment hwnnw ond weithiau mae’n teimlo’n od o briodol. Rydach chi’n gweld, dwi’n rhywun sy’n pendilio’n ddigon gwyllt rhwng crefu am gwmni pobl eraill a rhywbeth sy’n ymdebygu i fisanthropi (neu ddyngasedd yn Gymraeg, sy’n teimlo braidd yn gryf!), lle dwi ddim ond eisio eistedd y