Mae clocswyr Cymru yn dibynnu ar esgidiau pren pwrpasol – ond mae’r bobl sy’n medru gwneud clocsiau yn prinhau yn arw.
A’r prif anhawster i sicrhau parhad yr hen grefft o wneud clocsiau yw’r diffyg sgiliau gwaith coed a chrefft sylfaenol sydd gan bobol ifanc erbyn hyn.
Dyna farn y gwneuthurwr clocsiau Simon Brock o Sheffield, sy’n gwerthu clocsiau i ddawnswyr gwerin Cymru. Dywed fod Sefydliad Crefftau Treftadaeth wedi datgan bod y grefft o wneud clocsiau o dan fygythiad difrifol.