Mae clocswyr Cymry yn debygol o ddewis clocsiau lliwgar tra bo’r Saeson yn bodloni ar rai duon, yn ôl gwneuthurwr clocsiau o Sheffield…

Rhai cochion gloyw. Rhai arian o groen neidr ffug. Rhai gleision asuraidd… Clocsiau lliwgar fel yma sy’n apelio at ddant dawnswyr clocsiau Cymru, tra bod dawnswyr clocsiau Lloegr yn fwy tebygol o brynu rhai duon.