Mae newidiadau i’r ffiniau etholaethol yn golygu bydd etholaethau bach megis Arfon yn diflannu oddi ar y map…

Mae newidiadau mawr ar y gweill i ffiniau etholaethau Cymru ar gyfer San Steffan, gyda nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru yn cwympo o 40 i 32.

Bydd un o’r newidiadau mwyaf yn Arfon, un o etholaethau lleiaf Prydain, wrth iddi gael ei cholli’n llwyr.