Er na fydd o’n sefyll ym Môn yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mae Arweinydd Plaid Cymru yn ffyddiog y bydd ei blaid yn trechu’r Torïaid yno…

Mae Rhun ap Iorwerth yn hyderus gall y blaid gipio Ynys Môn yn ôl yn dilyn helyntion Virginia Crosbie yn San Steffan.

Nid yw’r Ynys wedi ei chynrychioli gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ers Ieuan Wyn Jones yn 2001.

Cipiwyd yr etholaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig yn 2019 ond mae’r arweinydd newydd yn “gwbl bendant y gall Plaid Cymru ennill Ynys Môn yn yr etholiad nesaf”.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r fei bod yr Aelod Seneddol presennol, Virginia Crosbie, wedi mynychu parti yn San Steffan yn ystod cyfnod o gyfyngiadau covid.

“Rydw i’n meddwl bod pobl yn sylweddoli nad ydy’r gynrychiolaeth sydd gennym ni yn Ynys Môn ar hyn o bryd  y math o gynrychiolaeth rydym ni eisiau,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth Golwg.

“Mae pobol, wrth gwrs, yn hynod siomedig yng ngweithredoedd yr Aelod Seneddol presennol yn partïo yn Llundain yn ystod cyfyngiadau covid…

“Ond, gweledigaeth bositif rydym ni yn ei chynnig ar gyfer Ynys Môn, gan wybod bod Aelodau Seneddol Plaid Cymru wastad yn pwnio uwchben eu pwysau, fel maen nhw’n ddweud yn San Steffan.”

Pam, felly, ddylai trigolion yr ynys ymddiried ym Mhlaid Cymru yn yr etholiad nesaf?

“Yn Ynys Môn, mae Plaid Cymru wedi dangos trwy arweinyddiaeth arbennig iawn Llinos Medi ar y Cyngor [sir] bod buddiannau Ynys Môn yng nghanol popeth maen nhw’n ei wneud,” meddai Rhun.

“Rydw i’n gobeithio ein bod ni wedi dangos ein bod ni wastad yn sicrhau bod buddiannau cymunedau Ynys Môn wrth wraidd y penderfyniadau rydw i’n galw ar lywodraethau i’w gwneud.

“Rydw i’n gwbl hyderus mai gwerthoedd Plaid Cymru ydy’r rhai sy’n adlewyrchu gwerthoedd Ynys Môn fwyaf, o Gaergybi i Amlwch.

“Cymunedau Môn sydd yn bwysig, a sylweddoli bod ei gwerthoedd hi yn cael eu hadlewyrchu yn y bobl sy’n ei chynrychioli.”

Yn wreiddiol roedd Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis i herio Virginia Crosbie yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond yn dilyn penderfyniad Adam Price i roi’r gorau i arwain y Blaid, a’r ffaith fod yr Arweinydd yn gorfod bod yn Aelod o Senedd Cymru, fe wnaeth Rhun dro pedol – “er budd Ynys Môn a Chymru a’i chymunedau i gyd”.

Felly mae’n rhaid aros i weld pwy fydd yn herio Virginia Crosbie ar ran y Blaid yn yr etholiad nesaf.

Rhun a’r rheol iaith

Yr Haf hwn fe fydd Arweinydd Plaid Cymru yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol, sefydliad sydd wedi bod yn y newyddion yn dilyn ffrae am ei rheol bod angen i bob un berfformio yno yn Gymraeg.

Daeth y rheol yn bwnc llosg pan ddatgelodd y rapiwr dwyieithog Sage Todz na fyddai’n perfformio yn yr ŵyl eleni oherwydd bod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Fe gafodd y Steddfod ei beirniadu gan rai am fethu rhoi lle i Sage Todz ar lwyfan Maes B, ond mae Rhun ap Iorwerth o blaid cynnal y rheol iaith.

“I fi mae’n eithaf syml, ac rydw i’n meddwl bod pawb – yn cynnwys artistiaid, cystadleuwyr, trefnwyr, ymwelwyr yr Eisteddfod – yn sylweddoli’r pwysigrwydd o sicrhau bod yr un ŵyl yma yn ŵyl sydd yn rhoi bri i’r Gymraeg fel dim un gŵyl arall,” meddai.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig gwarchod yr iaith o fewn yr Eisteddfod tra hefyd yn ystyried ffyrdd o foderneiddio’r dull o lwyfannu’r ŵyl.

“Mae’n bwysig sicrhau bod yr Eisteddfod yn fwy a fwy croesawus i bobol o bob cwr o Gymru, yn siaradwyr Cymraeg neu ddim yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae’n ŵyl i’w dathlu, efo’r rheol Gymraeg yma wrth gwrs yn hollol wreiddiol iddi hi, a prin oes unrhyw un o ddifrif yn dadlau yn erbyn y rheol sylfaenol honno.”

Beirniadu record Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd

Nid yw Rhun ap Iorwerth mor gefnogol o’r ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei redeg gan Fwrdd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

“Mae hi yn destun poen meddwl mawr i fi i feddwl bod cleifion a staff iechyd a gofal ar draws y Gogledd yn gorfod byw efo lefel o ddiffyg cynaliadwyedd, o ddiffyg gwytnwch, o gamreolaeth o fewn eu Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig am y rhan fwyaf o’i fodolaeth.

“Rydw i wedi gwneud hi’n glir fy mod i wedi colli ymddiriedaeth yn y gallu gan y Llywodraeth i roi trefn ar bethau”.

Ac yntau yn gyn-lefarydd Iechyd Plaid Cymru, mae Rhun eisoes wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, i gamu o’i swydd oherwydd yr helynt.

“Rydw i wedi gofyn am ddechrau eto efo iechyd yn y Gogledd, nid achos fy mod i’n dymuno mynd drwy’r broses o ad-drefnu, sy’n gallu bod yn broses boenus yn ei hun, ond oherwydd fy mod i’n credu mai digon ydi digon,” meddai.

“Dechrau eto efo rhyw fath o drefniant newydd ar draws y Gogledd y byddai orau er mwyn y cleifion a’r staff…

“Mae’n hollol amlwg, er bod y gofal mae pobl wedi ei gael yn unigol gan y meddygon a nyrsys a pob staff arall o fewn y gwasanaeth iechyd yn wych, dydy’r ymddiriedaeth ddim yno ddim mwy.”

Dyn a dynes i arwain?

Cyn i Rhun gael ei enwi’n arweinydd newydd Plaid Cymru yn swyddogol, bu i rai o’i gyd-bleidwyr ym Mae Caerdydd, Siân Gwenllïan a Sioned Williams, alw am fodel o gydarweinyddiaeth i’r Blaid – sef bod dyn a dynes yn arwain gyda’i gilydd.

Wrth drafod y syniad, dywed Rhun nad yw’n gweld ei hun fel “unben ar y Blaid,” ac yn honni bod arweinyddiaeth wastad wedi digwydd ar y cyd.

Yn ddiweddar, penododd ei gabinet cysgodol ar gyfer y Blaid a dywedodd bod “arweinyddion ar sawl lefel” o fewn Plaid Cymru a thu hwnt.

“Mae cydweithio yn rhywbeth sy’n bwysig i ni fel plaid a dydw i’n sicr ddim yn meddwl am fy hun fel un arweinydd sydd yn fath o unben ar blaid, nid felly mae hi’n gweithio ac nid felly ydw i eisiau iddi hi weithio,” meddai Rhun.

“Mae gennym ni arweinyddion ar sawl lefel yng Nghymru, p’un ai yn arweinyddion ymhlith actifyddion o fewn cymunedau ym mhob cwr o’r wlad, i arweinwyr ar lywodraeth leol i Liz Saville yn San Steffan, ag arweinyddion o fewn ein tîm ni o aelodau yma yn y Senedd”.

Ychwanegodd eu bod yn dwys ystyried yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans, a oedd yn crybwyll honiadau o fwlio, aflonyddu a misojini o fewn y Blaid.

“Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod y Blaid yma yn ymbweru a grymuso pawb, yn arbennig yng nghyd-destun yr adroddiad diweddar,” meddai.

“Mae merched yn chwarae rhan lawn o fewn y prosesau a’r systemau arweinyddol yma o fewn y Blaid achos rydyn ni’n blaid sy’n gweithredu ar ein gorau pan rydyn ni’n dod a’n holl dalentau ynghyd.

“A dyna ydw i eisiau ei wneud i uno’r blaid, uno egni pobl dalentog er mwyn i ni allu cyflawni a chyflwyno’r weledigaeth rydan ni eisiau i bobl Cymru”.

Mae Rhun ap Iorwerth yn “bositif iawn” yng ngallu’r Blaid i symud ymlaen yn sgil yr adroddiad Prosiect Pawb a bod cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r heriau.

“Mae rhywun yn dod i mewn i swydd sydd yn heriol yn ei hun, mae arwain unrhyw blaid wleidyddol yn heriol ac wrth gwrs mae’n digwydd ar amser heriol i’r Blaid wrth i ni wynebu materion mewnol,” meddai.

“Rydan ni’n gwybod am y gwaith aeth i mewn i Brosiect Pawb ac mae o’n faes, wrth gwrs, sydd yn effeithio ar bob un blaid wleidyddol a gymaint o sefydliadau eraill.

“Oherwydd ein bod ni wedi bod drwy’r broses o sylweddoli bod hyn angen ei ddatrys, mae gennym ni gynllun gwaith rŵan.”

Beth sydd ar y gweill?

Erbyn hyn mae Plaid Cymru wedi cyrraedd ail hanner y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y cytundeb – sy’n para tair blynedd – ym mis Tachwedd 2021 gyda’r bwriad o ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu polisïau mewn 46 maes gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn a rhoi’r hawl i gynghorau sir reoli tai haf.

Yn ôl yr Arweinydd newydd mae’r cytundeb yn “arloesol” a bod “gymaint ar ôl y gallwn gyflawni”.

“Mae hwn wedi bod yn rhywbeth arloesol yn wleidyddol mewn difri lle mae plaid sydd yn glir yn gweithredu fel gwrthblaid, hefyd ar yr un pryd yn cydweithio efo’r Llywodraeth i weithredu polisïau mewn nifer o feysydd allweddol.

“Meysydd, wrth gwrs, sydd yn bwysig iawn o ran ein hegwyddor ni fel plaid.

“Rydym ni wedi gallu cyflawni llawer yn barod yn y deunaw mis cyntaf, rydw i’n arbennig yn meddwl am y camau eithriadol o bellgyrhaeddol sydd wedi cael eu cymryd mewn perthynas â’r farchnad tai, er enghraifft.”

Er hynny, dywedodd bod yna dal feysydd ble nad yw’n credu bod y Llywodraeth yn gwneud pethau’n iawn, megis gofal iechyd, a bod angen deddfu fel bod nifer Aelodau Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i tua 90.

“Un o’r camau allweddol fydd cyflwyno a gweithredu deddfwriaeth ar ddiwygio’r Senedd, fydd yn gam hanesyddol i ni fel cenedl,” meddai.

“Bydd y datblygiad ar ein Senedd genedlaethol ni yn gam pwysig iawn yn ein datblygiad democrataidd ni a’n datblygiad ni fel gwlad.”

“Grymuso pobl ifanc”

Mae Rhun ap Iorwerth yn awyddus i ddenu gwaed ifanc i’r Blaid a sicrhau bod lle i’w lleisiau gael eu clywed.

“Mi’r oedd hi’n fraint enfawr i fi i gael gwneud fy araith fer gyntaf fel arweinydd Plaid Cymru o flaen aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru mewn cyfarfod ar y cyd rhwng y Senedd Ieuenctid a’r Senedd,” meddai.

“Roeddwn i’n edrych o gwmpas yr ystafell ac o gwmpas siambr y Senedd ac yn gweld pobl ifanc oedd yn awchu am gael gwneud gwahaniaeth i’w gwlad, gwneud gwahaniaeth i’w cenedl nhw”.

Dywedodd ei fod eisiau gweld egni a brwdfrydedd pobl ifanc yn cael ei ddefnyddio er “mwyn bwrw ati efo’r gwaith o greu cenedl well”.

“Rydw i’n benderfynol, fel arweinydd y Blaid, o drio grymuso pobl ifanc cymaint â phosib.

“Rydym ni wedi cymryd camau pwysig fel gwlad wrth ymestyn oedran pleidleisio i rai 16 a 17 oed, er enghraifft.

“Ond, mi ddylen ni fod yn gweithio o hyd a fydd y bwriad gen i yn sicr i nid yn unig dweud ein bod ni eisiau i bobl ifanc chwarae rhan yn ein gwleidyddiaeth ni, ond ein bod ni o ddifri yn ymarferol am roi cyfleoedd iddyn nhw i wneud hynny”.