Yn ddiweddar ymwelais â Chastell Caernarfon, i fwrw golwg dros y datblygiad ym Mhorthdy y Brenin.

Heb amheuaeth mae safon y gwaith a wnaethpwyd, yn arbennig y gwaith coed, yn haeddu canmoliaeth. Yn ogystal, mae darparu lifft yn fanteisiol, er nad oedd yn gweithio pan oeddwn yno. Fodd bynnag, teimlaf nad yw’r datblygiad yn gweddu i safle hanesyddol fel hwn.