Mae Irram Irshad yn ddysgwr Cymraeg ac wedi bod yn fferyllydd ers 20 mlynedd, ac mae ganddi syniadau pendant am sut i wella’r gofal i gleifion yng Nghymru…
Mae Llywodraeth Cymru am wario £30 miliwn yn ychwanegol ar ofal yn y gymuned, a hynny er mwyn lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
Ac un sy’n grediniol mai trin mwy o gleifion tu hwnt i’r ysbytai a meddygfeydd yw Irram Irshad, sy’n credu bod yna le i wneud mwy o ddefnydd o fferyllwyr.