Oes, mae yn rhaid cynnal post mortem i’r ddwy golled yn erbyn Armenia a Thwrci. Ac yma i gynnal y cwest mae Gwilym Dwyfor…

Wel, go brin fod llawer wedi rhagweld hynna! Do, aeth Cwpan y Byd yn wael iawn i Gymru ac nid oedd y deuddeg mis cyn hynny’n fawr gwell o ran canlyniadau i ŵyr Rob Page. Ond, roedd yna deimlad dipyn mwy gobeithiol unwaith eto yn dilyn dechrau da i ymgyrch ragbrofol Ewro 2024 yn ôl ym mis Mawrth.