Y Prifardd Twm Morys yw meuryn newydd Ymryson y Beirdd, sef yr ornest farddol a gaiff ei chynnal yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hi’n wahanol i’r rhaglen Radio Cymru Talwrn y Beirdd am mai cerddi caeth sydd yn yr Ymryson, tra bod cerddi caeth a rhydd yn cael bod yn rhan o’r Talwrn.