Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu’r deugain yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni.

Y pedwar fydd yn y ffeinal ym mis Awst yw ffarmwr o Lanidloes, seicotherapydd sy’n siarad pum iaith, Albanes sydd wedi setlo ar Ynys Môn, ac athro Saesneg sy’n edrych ymlaen at ymweld â’r Brifwyl am y tro cyntaf.