Mae Twm Morys a Manon Steffan Ros ymhlith y rhai sydd wedi cyfrannu at gywaith Llwybr Sant Cadfan…

Bydd project “unigryw” Cymraeg sy’n dathlu pererindod sant o’r chweched ganrif yn dod i ben yn niwedd mis Awst gydag encil llenyddol a chreadigol ar Ynys Enlli.

Ers blwyddyn, mae cynllun Pererin, dan ofal Esgobaeth Bangor, wedi bod yn rhedeg cywaith “llenyddol, diwylliannol ac ysbrydol” yn olrhain pererindod gyntaf Sant Cadfan o Dywyn i Ynys Enlli.