Mae’r berthynas rhwng gwir a chelwydd wedi cael sylw mawr… ond beth am y berthynas rhwng yr hyn sydd ar yr wyneb a’r hyn sydd o dan y dŵr? Mi gafodd Llywodraeth Cymru glod am ei ffordd o drin Covid ond, yn ôl Martin Shipton, mi allai’r ymchwiliad i’r pandemig newid hynny…

“Beth tybed fydd y canlyniadau gwleidyddol? Mae Mark Drakeford eisoes wedi mynegi ei fwriad i roi’r gorau i fod yn Brif Weinidog mewn da bryd cyn etholiad nesa’r Senedd yn 2026. Yn y man yma yn ei yrfa, mi fydd o’n canolbwyntio ar enw da… I Vaughan Gething [yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd] mae’r hyn sydd yn y fantol yn llawer mwy. Ac yntau’n cael ei weld yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer arweinydd nesa’ Llafur Cymru, gallai’n hawdd golli cefnogaeth pe bai’r dystiolaeth yn awgrymu ei fod wedi gwneud penderfyniadau gwael gyda chanlyniadau gwirioneddol ddrwg.” (nation.cymru)

I Huw Prys Jones, mae’r hyn sydd ar yr wyneb yn helyntion Plaid Cymru, yn cymhlethu’r gwirionedd a hithau’n ymdrybaeddu mewn euogrwydd. Oes yna fwy dan yr wyneb?

Euogrwydd am beth sy’n gwestiwn heb gael ei ateb – y cyfan a gawn yw cyfeiriadau amwys ac aneglur am ‘ddiwylliant’ honedig o fwlio, aflonyddu rhywiol a chasáu merched. Dydi siarad mewn damhegion fel hyn ddim yn ddigon da – ac anodd gweld pa les gwleidyddol all ddod o dderbyn rhyw fath o gyd-gyfrifoldeb am gamweddau o’r fath…Trwy gyhoeddi digon o wybodaeth i roi argraff anffafriol o’r blaid, ond sydd eto’n rhy amwys i fod o unrhyw werth, y perygl ydi bod Plaid Cymru wedi disgyn rhwng dwy stôl a llwyddo i gael y gwaethaf o ddau fyd. Nid yw eu stori’n dal dŵr chwaith, wrth bwysleisio bod y ‘diwylliant’ hwn yn mynd yn ôl flynyddoedd ar y naill law, ond eto’n ei led-briodoli i arweiniad Adam Price ar y llaw arall.” (golwg360.cymru)

Enigma o fath arall sydd yn yr Alban, lle mae sgôr yr SNP yn y polau piniwn ac, yn fwy fyth, sgôr annibyniaeth yn dal yn gry’ er gwaetha’ trafferthion y blaid. Ar theconversation.com, roedd yr Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Essex, Rob Johns, yn gweld cysylltiad…

“Dyw pleidleiswyr ddim fel petaen nhw’n barod o hyd i adael SNP sy’n boddi mewn sgandal, sydd wedi colli ei harweinydd ac sydd heb fod yn edrych ddim mwy abl o ddod â’r Alban yn nes at annibyniaeth nag yn 2014. Mae hynny oherwydd fod pleidleisio dros yr SNP wedi dod yn ffordd bleidiol neu etholiadol i fynegi cefnogaeth i annibyniaeth… All Llafur ddim dibynnu ar drafferthion yr SNP i ennill yn ôl y pleidleiswyr a symudodd yn un dorf i’r SNP yn 2015 yn sgil pleidleisio ‘Ie’ yn 2014. Does dim gwanhau i’w weld yn ymrwymiad y pleidleiswyr hyn i annibyniaeth nac yn eu hargyhoeddiad mai’r SNP yw’r ffordd orau – neu efallai yn hytrach yr unig ffordd – o fynegi’r ymrwymiad yna.”

Ac yn yr Alban, roedd Mike Small yn dyfynnu’r awdur Cormac McCarthy (a fu farw yr wythnos ddiwetha’) i fynegi’r cyfan…

“Mae’r garreg yn cwympo i’r pwll ac, o fewn eiliad, mae hwnnw’n llyfn eto. Byddwch yn troi’r dudalen a pharhau gyda’ch bywyd. Yr wythnos ddiwetha’, fe glywon ni y gallai newid hinsawdd ddileu hanner rhywogaethau’r ddaear… Ond mae pawb yn gwylio ac yn aros i bawb arall weithredu. Dyma’r farn gyffredinol ddi-fynegiant: pe bai pethau’n wirioneddol ddifrifol, does bosib na fyddai rhywun yn gweithredu?” (bellacaledonia.org.uk)