Ergyd, sioc a siom oedd gweld fod Spotify am ddod â’r trefniant rhyngddynt a Meghan Markle (a’i gŵr ufudd, Harry) i ben. Archetypes oedd fy hoff bodlediad yn y byd. Roeddwn wth fy modd â’r 12 rhaglen a gomisiynwyd gan Spotify am $20m yn 2020.

Fe fyddaf yn colli pêr-lais Meghan, a’i chwyno di-ben-draw am yr anghyfiawnderau a wynebir ganddi hi a’r Dug cyfoethog.

Ond, y tu cefn i bob cwmwl du mae’r haul yn codi…