Croeso cynnes Rhun, meddai’r blogwyr, wrth i AoS Cymru Ynys Môn ddod yn unig gystadleuydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru. Chwarae teg, mi wnaeth Theo Davies-Lewis egluro’n union wrtho beth ydi maint y dasg…
“Mae bod yn dda ar deledu yn cael ei ddirmygu fel chwiw Blairaidd ond bydd rhaid i arweinydd newydd Plaid Cymru ddefnyddio sgiliau o’r fath i greu ymddiriedaeth. Bydd yn angenrheidiol yn y misoedd nesaf i weithredu dwsinau o argymhellion i ddiwygio ei blaid ac ar yr un pryd argyhoeddi aelodau, cydweithwyr a’r cyhoedd eich bod yn bâr diogel (ac effeithiol) o ddwylo.” (nation.cymru)
Yn ôl Martin Shipton, mae penderfyniad Rhun ap Iorwerth ynddo’i hun yn cynyddu’r dasg etholiadol, gan golli’r cyfle i gipio Ynys Môn yn San Steffan…
“… gyda gobaith o ennill seddi newydd yn unman arall yn wan, y tebygrwydd yw y bydd [Plaid Cymru] i lawr i ddwy sedd [yn San Steffan]. Os felly y bydd hi, bydd y Blaid yn wynebu cwymp sylweddol yn ei chyllid gan y wladwriaeth… yn ogystal, bydd y Blaid yn gweld ei hawliau siarad yn siambr Tŷ’r Cyffredin yn lleihau, gan ei gwneud yn her fwy iddi gael ei chlywed ar lefel y Deyrnas Unedig. Yn anaml y bydd pleidiau’n cyfadde’ cyn etholiadau eu bod yn disgwyl colli seddi… ond y tu cefn i’r masgiau y maen nhw’n eu gwisgo ar gyfer y cyhoedd, fodd bynnag, bydd gwleidyddion y Blaid yn poeni.” (nation.cymru)
Ac, yn ôl Ben Wildsmith, does yna ddim newyddion da i genedlaetholwyr chwaith o edrych ar gynlluniau’r Blaid Lafur – er gwaetha’ ymdrechion Mark Drakeford yng Nghymru i gael trefn newydd gyfartal…
“Fydd dim cydraddoldeb rhwng cenhedloedd os yw un ohonyn nhw [Lloegr] yn arch-wladwriaeth artiffisial gyda diwylliant gwneud sy’n bod yn unig er mwyn cynnal y status quo gwleidyddol. Os na fydd pobol rhanbarthau Lloegr yn sylweddoli maint eu hanfantais eu hunain, fe fydd y ‘genedl’ Seisnig yn aros yn llawer rhy bwerus mewn unrhyw setliad ffederal… ddylai neb ddal eu gwynt os ydyn nhw’n rhoi eu ffydd yn y Blaid Lafur i ddatganoli’r Deyrnas Unedig.” (nation.cymru)
Ac mae angen balans newydd yn economaidd hefyd, meddai dau economegydd o Brifysgol Bangor, efo llai o bwyslais ar y byd ariannol a mwy ar fyd diwydiant…
“… mae masnach wedi mynd yn sylweddol fwy anodd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ers Brexit, gan leihau cyflenwadau a chodi prisiau. Mae hefyd fwy o bobol o’r Undeb yn gadael y Deyrnas Unedig nag sy’n cyrraedd, gan roi pwysau ar gyflogau mewn sectorau penedol ac ychwanegu at broblem chwyddiant. Mae Brexit, ynghyd â sector ariannol chwyddedig y Deyrnas Unedig yn gwneud gwaith Banc Lloegr o reoli chwyddiant gymaint â hynny’n fwy anodd. Mae angen i’r llywodraeth ailgydbwyso economi’r DU, gyda’r diwydiannau gwyddonol yn cael rôl bwysig…” (Edward Thomas Jones a Yener Altunbas ar theconversation.com)