Ges i neges anarferol i’m llongyfarch yn ddiweddar – am fod ar Twitter ers 12 mlynedd. Fy ymateb cyntaf ydi “dyna wastraff bywyd” ond eto fyddai hynny wedi bod yn annheg. Dros y blynyddoedd, mae’r wefan/ap wedi rhoi llawer o ddiddanwch a hwyl imi, a gwneud imi chwerthin lawn cymaint â digio. Dwi wedi ffraeo’n danbaid, cael dadleuon difyr a dysgu llawer. Ond does yna fawr o amheuaeth, ers i Elon Musk gymryd yr awenau rai misoedd yn ôl, mae’r lle’n teimlo’n gynyddol farw ac anghynnes. Penderfynais