Mi fydd robotiaid y dyfodol yn edrych yn ôl yn hapus iawn ar y cyfnod yma ac yn enwedig ar y ddadl ynghylch deallusrwydd artiffisial.

Mae addysgwyr y byd wedi bod yn tanglo’u dillad isa’ yn ddiddiwedd ynghylch gallu’r botiaid i greu traethodau ac atebion arholiad, a’r argraff yn cael ei rhoi mai dyna hyd a lled peryglon AI.