Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yng nghwmni pobl hŷn na fi.

Pan o’n i’n blentyn bach iawn, roeddwn i’n ystyried fy nghymdogion oedrannus ymhlith fy ffrindiau gorau, ac roedd yn well gen i dreulio amser yn eu cwmni nhw nag yng nghwmni plant o’r un oed â fi mewn gwirionedd.

O oedran cynnar iawn, roeddwn i’n gallu teimlo’r haenau ychwanegol roedd profiadau’r blynyddoedd wedi eu hychwanegu at eu cymeriad, ac roedd dyfnder eu deall yn ateb ryw alw ynof i nad oedd fy nghyfoedion yn gallu ei ateb.