Mae Golwg wedi bod yn holi sawl Arweinydd Cyngor Sir am y rhesymau tros godi trethi lleol eto eleni…

Mae Treth y Cyngor wedi codi eto eleni ym mhob cwr o Gymru, gyda’r cynnydd yn amrywio o 1.9% yn Nhorfaen i 9.9% yng Nghonwy.

Nid yw codi Treth y Cyngor yn anghyffredin nac yn annisgwyl, ac mae’r argyfwng costau byw wedi golygu bod pobl yn gorfod tyrchu yn ddyfnach i’w pocedi ym mron pob agwedd o fywyd.