Mae addasu Mozart i’r Gymraeg “yn jobyn fowr,” yn ôl un arweinydd cerddorol sy’n falch o gael rhoi cyfle i gantorion opera ganu yn eu mamiaith…
Mae’r cerddor Iwan Teifion Davies wedi trosi opera enwog Mozart, Così Fan Tutte, o’r Eidaleg i’r Gymraeg ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf cwmni Opra Cymru, sy’n dechrau fory (12 Mai) ym Mangor.
Y cantorion yn y cast yw Erin Gwyn Rossington, Huw Ynyr, Erin Fflur, John Ieuan Jones, Rhys Jenkins a Leah-Marian Jones.
Roedd y gwaith o addasu’r opera i’r Gymraeg yn “jobyn fowr iawn,” yn ôl y cerddor o Landudoch yn Sir Benfro, a gafodd ei addysg yn Ysgol y Preseli a Phrifysgol Caergrawnt.
“Wrth gyfieithu darn fel’na, rhaid i chi ddeall y gerddoriaeth a chanu mewn ffordd mor ddwfn – dyw e ddim o gwbl jest yn fater o gymryd y geiriau a ffeindio geiriau sy’n debyg yn y Gymraeg,” meddai Iwan Teifion Davies.
“Mae’r gerddoriaeth yn rhoi cymaint o gyfarwyddiadau i chi, ond mae hefyd yn rhoi cyfyngiadau ar yr hyn rydych chi’n gallu ei wneud.”
Un her oedd bod yr Eidaleg yn defnyddio llawer o odlau dwbl, fel a welir yn y darn i’r triawd Fiordiligi, Dorabella a Don Alfonso yn Act 1, sy’n odli ‘vento’ ac ‘elemento’ a ‘l’onda’ a ‘risponda’ sawl tro.
“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig cadw’r odlau dwbl cymaint â phosib, achos bod y gerddoriaeth wedi’i hadeiladu o gwmpas y synau yna,” meddai Iwan. “Mae hi’n anodd iawn yn Gymraeg, achos dy’n ni ddim yn meddwl am odl yn y ffordd yna. Hwnna oedd y gwaith caled. Allech chi wneud tudalennau a thudalennau ac wedyn fyddech chi’n styc am awr neu fwy ar un odl!”
Sut deimlad yw mynd ati i addasu gwaith athrylith byd-enwog fel Mozart i’r Gymraeg – ar gyfer yr unig gwmni opera Cymraeg yn y byd?
“Rhyw deimlad cymysg yw e,” meddai Iwan. “Weithiau ry’ch chi’n teimlo: ‘o, dw i wedi gwneud yn dda fan’na’. Wedyn rydych chi’n clywed dwy dudalen, a meddwl ‘mae hwnna’n uffernol!’ Yn fy mhrofiad i, dyna beth yw unrhyw waith creadigol.
“I fi, mae gwaith y cwmni’n weithred wleidyddol. Felly mae’n deimlad o falchder o gael y cyfle.”
Cafodd cwmni Opra Cymru ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog yn 2008 gan Patrick Young, cyn-gyfarwyddwr opera y Royal Opera House. Pam, ym marn Iwan Teifion Davies, bod gwaith Opra Cymru yn “weithred wleidyddol”?
“Ry’n ni’n codi statws y Gymraeg drwy ei chysylltu hi gyda’r ffurf ryngwladol yma,” meddai, “ac yn dweud bod y Gymraeg yn gallu gwneud unrhyw beth y mae unrhyw iaith arall yn ei wneud. Ry’n i hefyd yn cynnig gwaith i bobol sy’ ddim yn cael cynnig gwaith oddi wrth sefydliadau cenedlaethol eraill. A dod a diwylliant mor agos i’r cymunedau â phosib.”
Cast “cwbl rugl”
Peth “arbennig” yw cael cast o gantorion Cymraeg yn ôl Iwan Teifion Davies. Mae dau ganwr profiadol a llwyddiannus o fyd yr opera, y bariton Rhys Jenkins a’r mezzo-soprano Leah Marian-Jones – y ddau wedi perfformio mewn tai opera mawr fel Tŷ Opera Covent Garden a’r Metropolitan Opera yn Efrog Newydd – yn perfformio gyda phedwar sy’n dechrau ar eu gyrfa, Huw Ynyr, Erin Fflur, John Ieuan Jones ac Erin Gwyn Rossington.
“Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cael y chwech gyda’i gilydd, a bod pob un yn Gymraeg, ein bod ni’n gallu gwneud y cwbl drwy gyfrwng y Gymraeg – yn arbennig,” meddai Iwan Teifion Davies. “Beth sy’n braf i ni nawr yw bod cynifer o ddewis o gantorion, mae’n bosib cael cast sy’n gwbl rugl.”
Gorffennodd Erin Gwyn Rossington, merch fferm 27 oed o Lanfair Talhaearn ger Abergele, ei chwrs opera yn y Guildhall yn Llundain ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hynny yn dilyn pedair blynedd yn y Royal Northern ym Manceinion a chwrs meistr yn y Guildhall.
Mae’r soprano wedi arfer â chanu rhai o arias o Così Fan Tutte o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf iddi ganu’r rhan Fiordiligi i gyd.
“Dyma’r tro cynta fi wneud rôl lawn gan Mozart,” meddai. “Dw i wedi bod yn breuddwydio am ganu hon ers blynyddoedd, dweud y gwir.”
Mae stori Così Fan Tutte yn digwydd yn Napoli yn yr Eidal yn y ddeunawfed ganrif. Mae hen fachgen o’r enw Don Alfonso yn taeru nad oes y fath beth â menyw ffyddlon, ac yn cael bet gyda dau gyfaill ifanc, Ferrando a Guglielmo, na all y ddwy chwaer maen nhw wedi dyweddïo â nhw, Fiordiligi a Dorabella, fod yn ffyddlon.
Mae’r ddau ffrind yn derbyn yr her, gan fynnu mai eu cariadon nhw yw’r ffyddlonaf ar wyneb daear. Maen nhw’n dweud wrth y merched eu bod nhw’n mynd i ryfel ond yn dychwelyd, gan esgus eu bod nhw’n ddynion gwahanol.
“Wedyn mae’r opera yn eu gweld nhw yn profi’n ffyddlondeb ni fel cariadon,” meddai Erin Gwyn Rossington. “Felly mae yna lot o hwyl i gael! Lot o newid gwisgoedd.”
Mae hi’n braf iawn cael canu yn y Gymraeg, meddai’r gantores.
“Mae’n siawns dydach chi ddim yn ei gael fel arfer i ganu opera yn y Gymraeg. Mae wedi bod yn hwylus iawn. Mae o’n braf achos ry’ch chi’n deall y stori. Mae’n braf cael gwneud rhywbeth yn Gymraeg – mae’n sbesial iawn i gantores ifanc. A chael ymarfer yn Gymraeg. Mae popeth yn Gymraeg.
“Ac rydw i’n byw yn Llundain fel arfer, ond mae cael bod adre yng Nghymru yn braf, a mynd ar daith i rannau o’r wlad hwyrach na fyddai’n gallu cyrraedd opera fel arfer.”
Nid dyma’r tro cyntaf iddi weithio gydag Opra Cymru – fe fu’n rhan o opera Mared Emlyn i blant, Cyfrinach y Brenin, y llynedd. Bu’n gweithio hefyd gyda’r arweinydd Iwan Teifion Davies ym mis Ionawr eleni gyda chwmni Buxton Opera.
Fe fydd Erin Gwyn Rossington yn dathlu ei phen-blwydd yn 27 oed ar y noson agoriadol y daith. “Dw i’n lwcus iawn i gael gwneud rôl mor sylweddol, a chael gweithio efo Leah Marian Jones, fel y forwyn Despina, a chlywed hanes ei gyrfa hi, a Rhys Jenkins,” meddai. “Mae o’n ddiddorol iawn. Mae’n ysbrydoliaeth i ni fel cerddorion ifanc.”
Mae Così Fan Tutte (Opra Cymru) yn dechrau yn Pontio, Bangor, yfory (Gwener, 12 Mai) ac yna’n ymweld ag Abertawe, Caerfyrddin, Drenewydd, Aberhonddu, Pwllheli, Rhosllannerchrugog ac Aberystwyth