Bu anerchiadau taer dros y cymunedau Cymraeg ddechrau’r wythnos – a Bryn Fôn yn gresynu byw mewn tŷ rhent oherwydd bod prisiau tai mor uchel…
Er gwaetha’r glaw, daeth dros fil o bobol i rali fawr Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon ddydd Llun i alw am ‘Ddeddf Eiddo’ i Gymru, i warchod cymunedau a sicrhau tai i bobol leol.