Yr wythnos hon, yr awdur Marlyn Samuel o Ynys Môn sy’n rhoi cyngor i chwaer sy’n poeni bod ei brawd “bach” am gamwario’r arian ddaeth yn sgîl marwolaeth eu mam a chael ei hun mewn twll…
Annwyl Marlyn
Rydw i yn poeni yn arw am fy mrawd bach ers i ni golli Mam. Dw i yn dweud ‘brawd bach’, ond mae o’n 58 oed erbyn hyn ac fe ddylai fod yn ddigon atebol i ofalu am ei hun. Ond, wrth gwrs, tydi o ddim. A brawd bach fydd o i mi tra bydda’i byw. Ta waeth, mae’r ddau ohonan ni wedi etifeddu £150,000 yr un a thra dw i’n berffaith fodlon i adael yr arian yn y banc, mae’r pres yn llosgi ym mhoced fy mrawd. Mae o wedi ei hudo gan gwpwl o ffrindiau sydd ganddo i brynu dau fwthyn a thocyn o dir ar gyrion ein pentref. Y syniad yw eu hatgyweirio a’u troi yn fythynnod gwyliau a gwneud “pres mawr” ar y farchnad Airbnb. Mae yna olwg y diawl ar y bythynnod sydd hefyd yn cynnwys beudai a thir ag ati, ac mae tamprwydd yn rhemp yn yr adeiladau. A does dim dŵr na thrydan ar y safle. Ond mae fy mrawd a’i ffrindiau yn grediniol y medran nhw wneud y rhan fwyaf o’r gwaith eu hunain. Fyswn i ddim yn poeni rhyw lawer am hyn oni bai am y ffaith bod fy mrawd yn sôn am werthu ei dŷ er mwyn cael yr arian i brynu’r bythynnod, a byw mewn beudy wedi ei drawsnewid yn gartref… a hyd’noed wedyn, o werthu ei gartref, fydd ganddo fo ddim digon o arian i brynu’r lle newydd. Bydd ei ffrindiau yn cyfrannu £50,000 at y fenter. Mae cyfreithiwr y teulu wedi ei rybuddio am beryglon prynu ar y cyd, ac mi fedra i yn hawdd ddychmygu sefyllfa lle mae fy mrawd yn cael ei hun mewn twll. Ers yn blant, fi oedd yr un call, a fy mrawd oedd y rebel oedd yn cwyno a chreu trafferth. Rydw i wedi gofyn iddo anghofio am y bythynnod, a dweud ei fod yn rhy hen i rwdlan efo gwaith atgyweirio trwm. Beth fwy fedra i wneud?
I fod yn gwbl onest efo chi, does yna fawr fwy y gallwch chi ei wneud ynglŷn â sefyllfa eich brawd mae arna’i ofn. Rydach chi wedi dweud eich barn ynglŷn â phrynu ac atgyweirio’r ddau fwthyn a’ch pryderon ond, mwy na hynny, does yna ddim byd arall y gallwch chi ei wneud.
Maddeuwch i mi hefyd am siarad yn blaen, ond mae eich brawd “bach” yn ddyn yn ei oed a’i amser, yn tynnu am ei dri ar hugain. Nid rhyw lefnyn ifanc ydi o, o bell ffordd. Siawns ei fod bellach yn ddigon hen a chyfrifol i wneud ei benderfyniadau ei hun, er mor wallgof a dwl maen nhw’n edrych i chi.
Yn aml iawn mewn teuluoedd, mae pob plentyn yn dueddol o gymryd rôl arbennig. Weithiau maen nhw wedi cael y rôl honno gan eu rheini. Er enghraifft, fe glywch chi riant weithiau’n dweud: “Hon ydi’r un gall a chyfrifol,” neu “un gwyllt, gwirion ydi hwn”. Neu dro arall, mae plant weithiau yn ffeindio eu hunain yn llenwi’r gagendor yn deinamics y teulu. Hyd yn oed ar ôl iddyn nhw hedfan y nyth mae’n anodd iawn dianc o’r rôl yma sydd wedi cael ei roi iddyn nhw yn eu plentyndod. Dyna sut yn aml y cewch chi bobl yn ymddwyn yn gwbl wahanol yn y gweithle neu hefo’u ffrindiau, ond y munud maen nhw’n ôl yng nghwmni eu teuluoedd maen nhw’n gweddnewid i’r rôl yr oedden nhw wedi’i chymryd pan oedden nhw’n blant unwaith eto. Mi gymeroch chi’r rôl o chwaer fawr gyfrifol a chall, a’ch brawd y rôl o’r rebel a’r un oedd yn creu trafferth. Mae’n bwysig cofio, dw i’n meddwl, fod eich brawd bellach yn ddyn yn hytrach na’r bachgen bach trafferthus hwnnw a gafodd ei fagu efo chi’r holl flynyddoedd yna’n ôl.
Hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd sydd wedi mynd heibio, mae’n ddifyr sylwi eich bod chi’n teimlo rheidrwydd i ofalu ac i boeni am eich brawd. Yn ystod eich plentyndod dw i’n siŵr eich bod chi wedi cael sawl rhybudd i ofalu ac i edrych ar ei ôl o, ac mae hynny’n dal yn rhywbeth greddfol ynddoch chi.
Dw i’n cael yr argraff bod chi a’ch brawd yn wahanol iawn o ran personoliaethau. Rydych chi’ch dau ar y ddau begwn o ran sut i drin arian. Tra rydych chi’n awyddus i gynilo’r arian yn y banc, mae eich brawd ar dȃn i fuddsoddi a defnyddio ei etifeddiaeth. Does dim o’i le ar y naill na’r llall, cofiwch.
Hawdd gor-boeni
Rydych chi’n gweld eich brawd yn ymddwyn yn anghyfrifol iawn yn mentro fel hyn, ond cofiwch mae’n hawdd bod yn rhy boenus a gofalus weithiau. Yn hytrach na bodloni ar adael y £150,000 yn y banc, sy’n dipyn o swm, tybed ydach chi wedi ystyried gwario rhywfaint ohono? Tretio eich hun i wyliau neis, neu gar bach newydd efallai? Mwynhau pres yn lle ei gadw i gyd yn y banc? Tybed ydach chi’n dueddol, weithiau, o boeni’n ormodol am eich brawd yn hytrach na chanolbwyntio ar fwynhau eich bywyd eich hun?
Efallai bod y cynllun yn swnio yn un gwallgof i chi, a’ch bod chi’n gweld gwaith atgyweirio mawr ar y beudai, ond efallai i rai sy’n deall ac sy’n gallu gwneud y gwaith adnewyddu, does yna ddim cymaint o waith a hynny. Dydach chi ddim yn sôn os ydi’ch brawd a’i ffrindiau’n giamstars ar DIY ag ati.
Os ydi’r fenter, yn anffodus, yn mynd i’r gwellt o leiaf y byddwch chi wedi rhybuddio eich brawd. Drwy beidio â mynd i ffraeo efo’ch brawd ynglŷn â hyn, byddwch chi hefyd dal yn gallu bod yn glust iddo. Mwy na hynny, gallwch chi wneud fawr ddim mae arna’i ofn.
Dw i’n meddwl beth ddylech chi gadw mewn cof ydi nad ceidwad eich brawd ydach chi, er mor anodd ydi gorfod derbyn hynny.