Does dim dwywaith fod Jason Mohammad yn byw breuddwyd ei blentyndod, ac yntau yn lais a wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd teledu a radio trwy wledydd Prydain.

Wedi iddo ddarlledu i gynulleidfa o dros ddeng miliwn yn ystod gêm derfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn 2014 ac o’r Gemau Olympaidd, cael sioe ar Radio 2, a chyflwyno cyfres Final Score y BBC, mae’r Cymro Cymraeg wrth ei fodd â’i waith.