Yr wythnos hon, yr awdur Marlyn Samuel o Fôn sy’n rhoi cyngor i ddynes sydd wedi alaru ar aros i’w phartner ofyn iddi ei phriodi a chychwyn teulu…

Annwyl Marlyn

Dw i wedi bod mewn perthynas efo dyn ers bron i saith mlynedd bellach. Mae o’n gwybod fy mod i eisiau plant ond dw i eisiau priodi gyntaf. Dw i wedi disgwyl a disgwyl iddo ofyn i fi ond mae’n gwneud rhyw esgus bob tro. Rydan ni wedi prynu tŷ efo’n gilydd ac yn ‘briod’ i bob pwrpas ond dw i eisiau’r sicrwydd o fod yn briod cyn dechrau meddwl am gael plant. Dw i bellach yn 35 ac yn teimlo bod yr amser yn mynd heibio a dim byd yn digwydd. Dw i wedi trio siarad efo fo am hyn ond mae o jest yn dweud “y mwya’ ti’n plagio fi am hyn, y lleia’ tebygol ydw i ofyn i ti”. Dw i’n dechrau meddwl na fydd o byth yn gofyn ac efallai dylwn i ystyried dod a’r berthynas i ben a chwilio am rywun sydd eisiau priodi a chael teulu. Beth ydy’ch cyngor chi?

Mae bron i saith mlynedd o fod efo’ch gilydd  yn dipyn o amser. Dwi’n siŵr ei bod hi’n anodd gweld y rhan fwyaf o’ch ffrindiau chi erbyn hyn yn briod neu ar fin priodi a chithau dal heb fodrwy ar eich bys a’ch cloc biolegol yn prysur dician!

Ers pan rydan ni’n enethod ifanc mae llawer iawn ohonom ni’n breuddwydio am y diwrnod mawr, y ffrog briodas a’r trimins i gyd. Ond i eraill, oherwydd profiadau neu daliadau personol, nid ydynt yn gweld unrhyw reidrwydd na’r angen i ymrwymo i’w gilydd oherwydd ryw bishyn o bapur cyfreithiol.

Mi wn i hefyd am sawl cwpl syn byw’n hapus a dedwydd iawn efo’i gilydd sydd  ddim wedi priodi, yn wir, sy’n hapusach eu byd nag ambell i gwpl priod! Ond beth sy’n bwysig ydi bod y ddau berson yn gytûn ynglŷn â phriodi neu beidio. Yn anffodus, mae’n amlwg fod eich partner a chithau ddim ar yr un dudalen yn hyn o beth.

Rydych chi’ch dau wedi gwneud anferth o gomitment i’ch gilydd yn barod, un o’r rhai mwyaf yn ariannol beth bynnag, sef prynu tŷ efo’ch gilydd. Mae’n amlwg felly fod eich partner yn hapus yn y berthynas ac yn awyddus i dreulio gweddill ei fywyd efo chi. Fel rydych chi’n dweud yn eich llythyr, mi rydych chi’n “briod” i bob pwrpas, heblaw bod yna ddim modrwy ar ei eich bys chi.

Er bod eich partner yn gyndyn i briodi, cofiwch nad ydi hynny’n golygu nad ydi o’n eich caru chi. Efallai fod ganddo ei resymau dros ei anfodlonrwydd ac awgrymaf yn gryf eich bod yn ceisio cael at wraidd pam ei fod mor gyndyn. Efallai ei fod o’n teimlo’n anghyfforddus gyda’r holl ‘hw-ha’ sydd ynghlwm ȃ phriodas, y gost yn un peth, a’r gwrthdaro teuluol ag ati sy’n gallu codi yn sgil priodi, ofn colli ei hunaniaeth ac efallai yr ofn mawr, sef ysgariad.

Dydych chi ddim wedi crybwyll cefndir teuluol eich partner a’i brofiad personol o briodas. Ydi ei rieni o yn briod tybed? Gafodd o ei fagu mewn awyrgylch a sefyllfa o ddedwydd briodas ei hun neu beidio? Gall hynny fod  wedi ystumio a dylanwadu’n fawr tuag at ei agwedd o at y stad briodasol.

Mewn limbo

Rydych chi’n dweud eich bod “eisiau’r sicrwydd o fod yn briod cyn dechrau meddwl cael plant”. Cofiwch fod llawer iawn o gyplau’r dyddiau yma yn prynu tŷ efo’i gilydd gyntaf, wedyn yn cael babi ac yna’n penderfynu priodi. Ond y cwestiwn mawr ydi hyn: ydi’ch partner yn gyndyn i gael plant hefyd yn ogystal â phriodi? Gan ei fod y gwybod na wnewch chi ystyried cael plant cyn priodi, ydi o felly yn defnyddio hynny fel rhyw get out clause? Os ydi o, yna mae arna’i ofn fod  gennych chi waith meddwl mawr i’w wneud.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n teimlo braidd yn anghyfforddus ei fod o wedi  dweud: “y mwya’ ti’n plagio fi am hyn, y lleia’ tebygol ydw i o ofyn i ti”. Mae fel petai yna ryw elfen o power games yn mynd ymlaen fan hyn. Fel petai’r llaw uchaf yn eich perthynas ganddo fo. Partneriaeth gyfartal ddylai perthynas fod. Hefyd, tybed beth ydi’r esgusodion mae’n ei roi dros beidio â gofyn i chi ei briodi?

Cwestiwn arall wrth gwrs ydi pam y dylech chi ddisgwyl iddo fo ofyn i chi ei briodi? Fe allwch chi ddilyn esiampl cymeriad Nessa  yn y gyfres Gavin and Stacey, lle aeth honno ar ei gliniau a gofyn i Smithy ei phriodi hi! Beth fyddai  ymateb eich partner petaech chi’n gwneud hynny tybed?

Ond i fod o ddifri, mae’n rhaid i chi feddwl yn ddwys ynglŷn â beth rydych chi eisiau mewn bywyd. Mynnwch gael gwybod lle rydych chi’n sefyll ganddo fo.  Ar ôl bron i saith mlynedd o fod efo’ch gilydd, dydi o ddim yn deg eich bod chi mewn rhyw limbo fel hyn. Os nad ydi plant a phriodi ar yr agenda yna fe ddylech chi gael gwybod hynny er mwyn i chi benderfynu wedyn beth sydd bwysicaf i chi.