Mae teulu dylunydd tecstilau o Ddyffryn Ogwen wedi bod yn ffermio yn yr ardal ers tua phedair canrif, a does dim rhyfedd mai amaeth a’r dirwedd ydy’r prif ddylanwadau ei gwaith.

Llyfr yn cynnwys cofnodion o wahanol nodau ar glustiau defaid ffermydd yr ardal oedd yn perthyn i’w hen nain, wnaeth ysbrydoli Anna Pritchard i gynllunio carthenni lliwgar sy’n drwm dan ddylanwad ffermio defaid.