“Dw i’n trio sgrifennu pethe’n Gymraeg ro’n i’n chwilio amdanyn nhw pan oeddwn i’n fach…”

Drama ffantasïol sy’n mynd â ni o dan y môr yw Imrie, sioe fawr gyntaf yr awdur o Gaerdydd, Nia Morais.

Mae’r ddrama, sy’n gyd-gynhyrchiad gan Frân Wen a Theatr y Sherman, yn dilyn dwy hanner-chwaer yn eu harddegau wrth iddyn nhw geisio darganfod eu lle yn y byd.