Roedd Glyn yn arfer cerdded i’r gemau. Efallai nad dyna’r gair iawn, chwaith – roedd o’n symudiad mwy pendant na cherddediad arferol, yn debycach i orymdeithio. Fo a’i dad i ddechrau, llaw fach lyfn mewn llaw fawr arw. Yna gyda’i ffrindiau, yn cicio pêl rhyngddyn nhw ac yn stopio am fferins, a drodd yn faco, a drodd yn beints. Yna gyda David bach a Rhian pan gyrhaeddon nhw, un yn dal ei law fel daliodd ei dad ei law yntau ‘stalwm, ac un ar ei ysgwyddau, yn mwynhau golygfa uchel, urddasol o Wrecs