Mae cenedlaetholwyr wedi treulio blynyddoedd yn derbyn eu hysbrydoliaeth o’r Alban. Ond mae Arweinydd newydd yr SNP yno yn wynebu heriau mawr, meddai Huw Prys Jones…

Roedd y rhyddhad ymhlith llawer o wleidyddion mwyaf blaenllaw yr SNP yn amlwg ar ôl gweld Humza Yousaf yn cael ei ethol i arwain y blaid yn ddiweddar.